Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 2 Mai 2013

 

Amser:

10:30 - 12:00

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2013(6)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

Angela Burns

Sandy Mewies

Rhodri Glyn Thomas

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog)

Non Gwilym (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog)

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, y Dirprwy Lywydd

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

 

 

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad y Cadeirydd

 

</AI1>

<AI2>

1(i)        Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn;

 

</AI2>

<AI3>

1(ii)       Datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1(iii)      Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Cytunwyd ar y cofnodion.

 

</AI4>

<AI5>

2.  Gwaith ymgysylltu ac allgymorth – cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad

 

Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Cynulliad yn allweddol os yw'r Comisiwn am lwyddo i gyflawni ei nod o ymgysylltu â phobl Cymru.  

Yn dilyn adolygiad diweddar, cafodd y Comisiynwyr adroddiad ar waith gwasanaeth addysg y Cynulliad. Teimlwyd bod y gwasanaeth yn cynnal ystod o weithgareddau o ansawdd uchel ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at faterion gerbron y Cynulliad drwy ymchwiliadau pwyllgor a'r gwaith allgymorth gydag ysgolion ac athrawon. 

Ystyriwyd bod gweithgareddau a oedd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu am y Cynulliad a'i waith yn bwysig iawn, ac er y dylai hwn fod ar gael o hyd, dylai gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Teimlai'r Comisiynwyr hefyd bod rhagor o bosibiliadau i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc ymwneud yn uniongyrchol â busnes y Cynulliad.

Er mwyn datblygu'r gwaith hwn a chryfhau'r ystod o gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'r Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr ar y canlynol:

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu a'i waith fydd datblygu syniadau am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl ifanc, er enghraifft drwy gymryd rhan o bell drwy ddefnyddio technoleg neu Gynulliad Ieuenctid. Roedd teimlad cryf mai pobl ifanc a fyddai wrth wraidd y gwaith hwn. Hwy a fyddai'n llunio'r gwaith ac yn nodi'r ffyrdd gorau o sicrhau bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygu dulliau arloesol a chreadigol o fynd i'r afael â'r gwaith. 

Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros weddill y flwyddyn ariannol hon. 

Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd i lywio'r trafodaethau ac i’w cynorthwyo â'u penderfyniadau.

 

</AI5>

<AI6>

3.  Unrhyw Fusnes Arall

 

Nid oedd materion eraill i’w trafod.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mai 2013

 

 

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>